Rhif y ddeiseb: P-06-1286

Teitl y ddeiseb: Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID-19.

Geiriad y ddeiseb:

Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cael trafferth gyda chanser yn cael triniaeth amserol ac yn cael cyfle cyfartal i frwydro canser lle bynnag maent yn byw yng Nghymru. Mae hefyd yn hanfodol i gefnogi teuluoedd sydd ag aelodau o’r teulu â chanser.

Rydym am i’r ddeiseb hon fynd ymhell a chyrraedd teuluoedd sy’n cael trafferth ac er mwyn darparu adnoddau a chyfleusterau i bobl.


1.        Cefndir

Mae diagnosis cynnar a thriniaeth gyflym yn allweddol i gynyddu’r siawns o oroesi canser.

Cafodd rhai rhaglenni sgrinio cenedlaethol eu hoedi yn ystod cyfnod cynnar y pandemig. Effeithiodd COVID hefyd ar ddarpariaeth gwasanaethau, gan achosi rhywfaint o oedi ar gyfer profion diagnostig a thriniaethau pellach. Yn ogystal, mae tystiolaeth bod rhai pobl wedi dewis gohirio diagnosis a thriniaeth. Mae’r ffactorau hyn wedi cyfrannu at ôl-groniad mewn achosion o ganser.

Mae ymchwil wedi dangos gostyngiadau sylweddol mewn diagnosis canser yng Nghymru yn ystod y pandemig, er enghraifft, roedd dros fil yn llai o achosion newydd o ganser y coluddyn, canser y fron a chanser yr ysgyfaint yng Nghymru yn 2020, o gymharu â 2019.

Yn ôl rhanddeiliaid fel Target Ovarian Cancer, mae’r pandemig wedi cael effaith aruthrol ar atgyfeiriadau brys gan feddygon teulu ar gyfer achosion posibl o ganser ac amseroedd aros am driniaeth.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod llawer o’r bobl sy’n dod i mewn i’r system bellach yn cael diagnosis o ganser sydd wedi datblygu i gam diweddarach – gyda chanlyniadau gwaeth o ganlyniad.

Cyflwynwyd targed llwybr newydd ar gyfer amheuaeth o ganser ar 1 Rhagfyr 2020. Fodd bynnag, mae’r data amseroedd aros diweddaraf (Mehefin 2022) yn dangos mai dim ond 54 y cant o gleifion a gafodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser, ymhell islaw'r targed o 75 y cant.

Roedd ymchwiliad diweddar i effaith yr ôl-groniad o amseroedd aros ar bobl yng Nghymru (Ebrill 2022) gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn cynnwys argymhelliad penodol yn ymwneud â chanser:

Argymhelliad 3. Dylai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol weithio gyda GIG Cymru a sefydliadau’r trydydd sector i ddatblygu a chyflwyno ymgyrch genedlaethol o fewn y 12 mis nesaf i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser, ac i annog pobl i gysylltu â gwasanaethau iechyd os oes ganddynt unrhyw bryderon. Dylai'r ymgyrch hefyd annog pobl i dderbyn gwahoddiadau i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio canser.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi

Mae Rhwydwaith Canser Cymru yn gweithio ar gynnig y bydd yn ei gyflwyno i Gynghrair Canser Cymru, a’r Grŵp Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Ganser er mwyn datblygu ymgyrch a fydd yn codi ymwybyddiaeth o symptomau canser ac yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau iechyd os oes ganddynt unrhyw bryderon neu symptomau canser. Hefyd, bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sgrinio i wneud diagnosis cynnar ac ar gyfer canlyniadau, a bydd yn annog pobl i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer rhaglenni sgrinio canser.  Cyflwynir y cynnig hwn i’r Bwrdd Rhwydwaith Canser ym mis Medi 2022.

 

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb yn nodi bod gofal canser wedi’i nodi fel gwasanaeth hanfodol sydd angen ei ddiogelu cymaint â phosibl rhag amharu arno yn ystod y pandemig. Mae’n tynnu sylw at y cyllid newydd a roddodd i’r GIG i gefnogi gwasanaethau; hyfforddi staff newydd, gan gynnwys arbenigwyr gofal canser; a buddsoddi mewn offer newydd a ddefnyddir i wneud diagnosis a thrin canser.

Fodd bynnag, mae’n cydnabod, tra roedd y pandemig yn gwaethygu, amharwyd ar y gallu i ddarparu rhai triniaethau canser ac roedd llawer o gleifion wedi dewis gohirio triniaeth ar yr adeg hon. “Mae hyn yn debygol o gael effaith ar ganlyniadau canser”.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod wedi “gwneud adferiad mewn gwasanaethau canser yn flaenoriaeth gynllunio i’r GIG”. Ategwyd hyn gan gamau gweithredu ar gyfer gwasanaethau canser yn y Rhaglen i Drawsnewid a Moderneiddio Gofal a Gynlluniwyd (Ebrill 2022). Mae’r rhaglen yn nodi:

Ar sail ffigurau’r blynyddoedd blaenorol, amcangyfrifir bod oddeutu 4,500 yn llai o bobl wedi cael diagnosis a thriniaeth am ganser.  Yn awr, fodd bynnag, mae pobl yn ceisio sylw am achosion posibl o ganser ar gyfradd uwch nag a welwyd erioed o’r blaen.

Mae datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer canser yn amlinellu ei dull ehangach o wella gwasanaethau canser.

Dywed y Gweinidog fod gwasanaethau’r GIG wedi cyflwyno nifer o newidiadau i lwybrau i’w cyflymu a bod llwybrau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser y dylai holl gyrff y GIG geisio eu cyflawni. Mae’r ymateb yn nodi camau pellach a gymerwyd gan gynnwys cyllid i drefnu llwybrau cleifion; meddalwedd digidol newydd i gynorthwyo rheolwyr gweithredol ar gyfer canser i reoli ac olrhain rhestrau aros cleifion; a datblygu hyfforddiant newydd i gefnogi'r holl staff sy’n ymwneud â darparu llwybrau canser. Daw’r Gweinidog i’r casgliad:

I am confident that this combination of focus, effort and support that is being brought to bear will make a significant difference to the delivery of cancer services in the future.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.